Sioe gerddorol gan Hanna Jarman wedi ei pherfformio gan gast Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru 2021. Yn y sioe mae byd y Duwiau Serch yn gwrthdaro â realiti cariad yn y Gymru gyfoes. ‘Cymysgfa ddwyieithog, fywiog’ o ffilm a theatr a ‘rhywfaint o Zoom seicadelig’, yn cydblethu straeon cymeriadau ifanc wrth iddyn nhw ddathlu ac ailddiffinio’r hyn y gall cariad fod.