agor parc newydd

23 Gorffennaf 2022

Ar ddydd Sadwrn, y 23 ain o Orffennaf agorwyd y Parc Gwenfrewi yn swyddogol  gan y Maer, y cynghorydd Talat Chaundri. Mae adnewyddu’r parc wedi ‘i wneud yn bosibl trwy grant mawr gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r parc yn cynnwys ardal goediog, darn o flodau gwyllt, gwelyau llysiau ar gyfer grwpiau cymunedol, yn ogystal â lawntiau a mannau eistedd.

Bydd y parc newydd yn gaffaeliad gwych i bobl Aberystwyth  nawr ac am flynyddoedd iddod.