Pedwar rhanbarth. Pedair cân. Un wobr. Â gwlad y gân yn gwylio o’u soffas, pwy ddaw i’r brig?
Ymunwch â ni’n fyw yn y stiwdio ar gyfer rownd derfynol Anthem, cystadleuaeth ganu deledu fwya’r genedl. Bydd peiriannau gwynt. Bydd newidiadau cywair. Bydd dadlau di-ri ar Twitter.
Wrth i’r cystadleuwyr o bob cwr o Gymru baratoi i frwydro i gipio’r teitl, mae’r ddrama a’r doniolwch yn datblygu – ar yr awyr a thu ôl i’r llen. Ydyn nhw ishe’r enwogrwydd? I gael eu derbyn? Neu dim ond tlws arall i roi ar ddreser Mam?
Dyma gomedi gerddorol Gymraeg newydd a fydd yn codi gwên ymhell ar ôl canu’r nodyn olaf.
(wedi’i ohirio o fis Ebrill)