Arwydd Drwy’r Awyr

9 Tachwedd 2022 – 20 Tachwedd 2022

Am ddim

Profiad realiti rhithwir 360 yn Gymraeg a Saesneg yw Arwydd Drwy’r Awyr gan y gwneuthurwr ffilmiau llwyddiannus Tracy Spottiswoode, ynghyd â’r artist sain Marie Tueje a’r perfformwyr Marega Palser, Mary-Anne Roberts a Gareth Clark.

Ar 13 Mai 1897 gwnaeth y dyfeisiwr Eidalaidd Gugliemo Marconi, a oedd yn gweithio gyda pheiriannydd o Swyddfa’r Post yng Nghaerdydd, George Kemp, drawsyrru a derbyn y signalau di-wifr cyntaf erioed mewn Cod Morse dros ddŵr agored rhwng Ynys Echni a Thrwyn Larnog ar arfordir de Cymru.

Dyma oedd dechrau technoleg gyfathrebu fodern. Un o’r negeseuon oedd ‘ARE YOU READY?

Wedi’i ysbrydoli gan arbrawf Marconi, mae Arwydd Drwy’r Awyr yn mynd â’r gynulleidfa ar daith gyfareddol, ryfeddol a breuddwydiol, gyda haenau o hanes, mytholeg, iaith a natur yr ardal o amgylch Larnog.

Mae’r profiad, a luniwyd fel perfformiad safle-benodol ar gyfer aelod unigol o gynulleidfa gyda’r bwriad o gynnig cysur mewn cyfnod o ynysu, yn cyfuno’r traddodiad Celtaidd o adrodd stori ag atyniad gweledol swrrealaidd straeon tylwyth teg dwyrain Ewrop.

Mae’r offer VR yn borth, sy’n cludo’r gwyliwr i fyd lle y gwahoddir gwesteion i gymryd rhan mewn defodau cyfarwydd ond rhyfedd, gan ddechrau ar daith emosiynol ac atgofus drwy haenau chwedlonol amrywiol y lle go iawn a hudol hwn.