Bragdy i Brifardd

20:00, 5 Hydref 2022

Am ddim

Noson o gerddi a chaneuon i ddathlu llwyddiant un o hoelion wyth y bragdy – sef Llŷr Gwyn Lewis – yn yr Eisteddfod.

Bu llawr y bragdy yn dawel ers tro maith yng Nghaerdydd, ond dyma glirio’r pibellau a mentro nôl.

Ymunwch â ni mewn lleoliad newydd. Mae Motel Nights yn far sydd ar Paper Mill Road, heb fod ymhell o Barc Fictoria. 

Lleoliad: Motel Nights, Paper Mill Rd
Dyddiad: 5 Hydref 2022
Amser: 20:00 (8pm)
Mynediad: Am ddim