Cwis Calan a Chân

19:30, 31 Rhagfyr 2022

£10

Mae 2023 bron iawn yma ac mae’n hen bryd inni ddechrau meddwl am noson Galan!

Mae Cronfa Caernarfon ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn trefnu noson hwyliog yng Nghlwb Hwylio Caernarfon, ac mae croeso cynnes i bawb!

Am £10 yn unig cewch wledd o adloniant gan Geraint Lovgreen a’i driawd a Hywel Pitts. Does dim dwywaith y bydd yn noson i’w chofio!

Mae dros hanner y tocynnau eisioes wedi eu gwerthu felly cyntaf i’r felin yw hi! I hawlio’ch tocyn cysylltwch gyda’r pwyllgor trwy ebostio cronfacaernarfon2021@outlook.com neu yrru neges destun ar 07917879077.

Mi welwn ni chi yno!