Cyfarfod arbennig dan arweiniad Mrs Elenid Jones, Caerdydd

14:00, 3 Gorffennaf 2022

Mae Mrs Elenid Jones, Caerdydd yn gyn swyddog Cymorth Cristnogol yng Nghymru.  Mae’n ferch i un o feibion Capel yr Erw sef y diweddar Dr Matthew Williams ac yn nith i’r Athro Griffith John Williams.

Bydd yn rhoi hanes y ddau frawd a’u rhieni, eu magwreth yng Nghellan a’u cysylltiad â Chapel yr Erw.  Gwnaeth y ddau gyfraniad aruthrol i Gymru ac fel dau gyn ddisgybl Ysgol Tregaron, mae’n gymwys felly i son amdanynt ym mlwyddyn y brifwyl yn Nhregaron.

Croeso cynnes i bawb.