Cynhadledd Ryngwladol Llawysgrifau Cymru

12:00, 20 Mehefin 2022 – 16:00, 22 Mehefin 2022

£25- £50

Cynhelir y gynhadledd hon ar y cyd gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddathlu cyhoeddi A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes, c.800-c.1800 gan Daniel Huws.

Y prif siaradwyr fydd Ceridwen Lloyd-Morgan, Bernard Meehan, a Paul Russell. Yn ogystal, cyflwynir dros ddeg ar hugain o bapurau adrannol ar agweddau ar lawysgrifau o Gymru, gan gynnwys eu gwneuthuriad, paleograffeg, ysgrifwyr, noddwyr, casglwyr, astudiaethau testunol a chyflwyno digidol.

Ceir manylion y rhaglen lawn ar wefan Llawysgrifau Cymru.

Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg – darperir cyfieithu ar y pryd ar gyfer detholiad o’r papurau Cymraeg

Mae pris tocyn yn cynnwys te, coffi a chinio bwffe yn ystod y gynhadledd