Y Tri Cyprian

19:00, 21 Hydref 2022

am ddim

Created with GIMP

Sgwrs yn Gymraeg gan Geraint Jones – gyda chyfieithiad opsiynol

Darlith yw hon am dri ‘Cyprian’ gwahanol, gyda’r tri yn sôn am ‘ferthyrdod’ ac aberth o natur wahanol i’w gilydd:

  • Cyprian o Ogledd Affrica’r drydedd ganrif â’i ferthyrdod rhyfeddol, gŵr sy’n rhannu ei ddiwrnod coffa (16 Medi) â neb llai nag Owain Glyndŵr.
  • Cyprian, y llong o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a ddrylliwyd mewn storm enbyd ar greigiau gogleddol Llŷn. Sonnir am aberth a ddefnyddiwyd yn destun pregeth yn Abaty Westminster a Soar, Nefyn. Mae’n un o storïau môr mwyaf arwrol Cymru.
  • Cyprian, bad achub mwyaf di-nod Cymru, a barhaodd am ddeunaw mlynedd yn unig a’i daith ‘forwynol’ anffodus. Yn rhyfedd, fe’i lansiwyd ar Afon Tafwys mewn lle sydd heddiw’n hafan i oligarch ar ffo o Rwsia.

Awdur Cymraeg, cerddor ac ymgyrchydd iaith yw Geraint Jones. Mae fe’n un o brif arweinwyr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ym Mhen Llŷn.

Cliciwch y ddolen er mwyn cofrestru am eich lle yn y gynulleidfa: