Cystadlaethau Eisteddfod Capel y Groes

26 Mai 2022 – 1 Gorffennaf 2022

Mae Eisteddfod Capel y Groes yn cynnal dwy gystadleuaeth arbennig iawn fydd yn cael eu gwobrwyo ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.

– Cystadleuaeth y Gadair dan 21 oed. Stori neu gerdd ar y testun ‘Breuddwydio’. I’w anfon ar e-bost i eisteddfodcapelygroes@outlook.com erbyn Gorffennaf y 1af. Y beirniad yw’r Prifardd a’r Prif Lenor Mererid Hopwood. Y wobr fydd cadair fach a £100.

– Cystadleuaeth y jôc orau o dan 12 oed. Anfonwch fideo o’ch hun yn dweud eich hoff jôc atom erbyn y 1af o Orffennaf. Anfonwch eich fideos at eisteddfodcapelygroes@outlook.com neu dros Facebook Messenger @Eisteddfod Capel y Groes. Y beirniad yw’r Prif Ddigrifwr Ifan Tregaron. Y wobr bydd coron gomic a’r cyfle i ddweud eich jôc ar faes yr Eisteddfod.