Gig Dathlu 50 Theatr Felinfach

19:30, 13 Mai 2022

Dewch i ddathlu mewn steil ‘da ni wrth i ni gychwyn dathliadau penblwydd Theatr Felinfach yn 50!Mewn noson llawn cerddoriaeth dewch i ymuno yn Gig Dathlu 50 Theatr Felinfach gyda neb llai ‘na Pwdin Reis a Bwca. Ni’n sicr byddwch chi ffaelu aros yn llonydd trwy’r nos!

Mae’n anodd credu fod yna bedair blynedd wedi mynd heibio ers i Pwdin Reis ffrwydro ar y sin fel blast o awyr iach o oes a fu. Y newyddion da yw bod y band yn gigio ‘to ar ôl dwy flynedd o rwystredigaeth.

Betsan Evans yw prif leysydd y band sydd yn belto mas tiwns gyda phŵer ac angerdd. Mae Neil Rosser yn gwasgu rockabilly riffs allan o hen gitâr Gretsch lliw oren sydd wedi ei lofnodi gan ei arwr Brian Setzer o’r Stray Cats. Mae Norman Roberts yn feistr corn ar y Bâs dwbl ac mae’n dreifo’r caneuon i’r entrychion gyda’i chwarae heintus. Y drymiwr sydd yn angor i’r band, sydd yn cadw amser fel watch o’r Swistir ac sydd yn hollol gyfforddus yn chwarae unrhyw steil yw Rob Gillespie.

Os ydych yn chwilio am rywbeth gwahanol ac yn ffansio bach o rockabilly Cymraeg beth am drial bach o Bwdin Reis achos ma’ pawb yn gwbod pa mor neis yw Pwdin Reis.

Sefydlwyd Bwca yn 2017 gan Steff Rees o Aberystwyth fel ei brosiect cerddorol unigol ond ar ôl cyfnod o berfformio ar ben ei hun tynnodd fand at ei gilydd yn Hydref 2018 er mwyn gallu datblygu Bwca i’w lawn botensial. Ers sefydlu’r band mae Bwca wedi mynd o nerth i nerth gan berfformio eu caneuon bywiog a bachog mewn gigs a gwyliau ar draws y wlad o Ddolgellau a’r Bala yn y gogledd i Abertawe a Chaerdydd yn y de.Rhyddhawyd albwm cyntaf Bwca ym mis Tachwedd 2020 ar CD ac yn ddigidol ym mis Ionawr 2021. Albwm yw hwn sy’n talu teyrnged i filltir sgwâr Steff Rees yn ardal Aberystwyth 10 mlynedd ers iddo symud i’r ardal.

Mae 2022 yn argoeli i fod yn flwyddyn brysur iawn i Bwca gyda’r Eisteddfod yn ymweld â’u bro felly dilynwch eu taith ar Facebook, Twitter ac Instagram trwy chwilio am @bwcacymru.

Archebwch eich tocynnau nawr!

Oriau’r Swyddfa Docynnau:
Llun i Gwener
9:30yb-16:30yp

01570 470697

Gallwch hefyd adael neges gyda’ch enw a’ch rhif ffôn ar ein peiriant ateb, neu anfonwch e-bost at theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk

NI dderbynnir archebion oddi ar unrhyw un o’n llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Bydd angen TALU’N LLAWN wrth archebu.