Mae Gwaith Haearn Blaenafon yn croesawu ymwelwyr i brofi golygfeydd a synau’r Ail Ryfel Byd, mewn digwyddiad fydd yn cynnig profiadau sy’n cludo teithwyr yn ôl i’r 1940au.
Gall ymwelwyr wylio hanes yn digwydd gydag ail-greadau, dweud stori, cerddoriaeth, ac arddangosiadau hanes byw – wrth i’r Ail Ryfel Byd ddychwelyd i Gymru am un penwythnos yn unig.