Dewch i ddilyn Y Wal Goch

19:00, 16 Tachwedd 2022

Am ddim

Mae’r Gwasanaeth Llyfrgell Ceredigion  yn cynnal noson i dathlu pêl-droed Cymru yn llyfrgell Aberystwyth nos Fercher nesa (16ain) am 7yh.  Mae Ffion Eluned Owen yn dod i drafod a hyrwyddo ei llyfr newydd Y Wal Goch, a bydd panel yn dilyn wedyn, gan gynnwys Owain Schiavone a Dilwyn Roberts (ac eraill i’w cadarnhau).

 

Mae Siop Inc hefyd yn dod â stondin o lyfrau pêl-droedaidd ar gyfer plant ac oedolion i’w gwerthu.