Dewch i gwrdd â Marchogion Ardudwy yng Nghastell Harlech

11:00, 27 Awst 2022 – 16:00, 28 Awst 2022

Prisiau mynediad safonol yn berthnasol

Am ddiwrnod allan i’r teulu sy’n llawn hwyl hanesyddol a drama ganoloesol, mae Castell Harlech yn croesawu ymwelwyr i brofi’r wefr o fywyd mewn castell canoloesol. Gydag arddangosiadau arfau, saethyddiaeth ac arddangosiadau ymladd, gall ymwelwyr ddarganfod sut roedd eu cyndeidiau’n byw ac yn ymladd yn yr Oesoedd Canol.

Bydd ymwelwyr hefyd yn hedfan fry gydag adar ysglyfaethus wrth iddyn nhw arddangos sgiliau anhygoel a phlymio dros eu pennau.