Diwrnod Hawliau Gofalwyr

12:00, 17 Tachwedd 2022

Am ddim

Mae Diwrnod Hawliau Gofalwyr yn ymgyrch genedlaethol sy’n cael ei chynnal yn flynyddol i godi ymwybyddiaeth ynghylch eich hawliau fel gofalwr di-dâl. Eleni, bydd yn cael ei gynnal ar 24ain o Dachwedd 2022.

Fel arwydd bach o’n gwerthfawrogiad o bopeth y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud, mae’r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol, a phartneriaid wedi trefnu tri digwyddiad ledled Ceredigion i ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr.

Gwahoddir yr holl ofalwyr di-dâl a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt i ddod i’r digwyddiadau am ddim. Byddant yn cael cyfle i gael mynediad at ystod eang o wybodaeth a chefnogaeth wrth gymdeithasu â gofalwyr eraill.

Bydd aelodau o’r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol ynghyd â gweithwyr proffesiynol o sefydliadau fel Gofalwyr Ceredigion Carers, Cyngor Ar Bopeth Ceredigion, Nest, Canolfan Byd Gwaith a mwy, ar gael i siarad ar sail un i un ynghylch y math o gefnogaeth y gallant eu darparu i ofalwyr.

Bydd te a choffi, a chinio o sŵp a bara ar gael heb gost ychwanegol. Mae croeso i ofalwyr alw heibio ar unrhyw adeg ac aros am gyn lleied o amser neu gyhyd ag yr hoffent. Bydd nifer cyfyngedig o fagiau nwyddau ar gael hefyd!

Os hoffech ddod ond ddim yn siŵr sut y gall hyn ddigwydd, cysylltwch â ni ar 01545 574200 / cysylltu@ceredigion.gov.uk a byddwn yn ceisio eich helpu i chwilio am y gefnogaeth gywir.