Draenen Ddu

19:30, 25 Mai 2022

Drama ‘Draenen Ddu’ gan gwmni Theatr Bara Caws yn dod i Neuadd Goffa Talgarreg ar nos Fercher 25 Mai.

Actorion: Rhian Blythe a Rhys ap Trefor.

Cyfarwyddo: Betsan Llwyd.

Addasiad Angharad Tomos o’r ddrama ‘Blackthorn’ gan Charles Miley.

Dau o blant yn unig sydd wedi eu geni yn y pentref ers cenhedlaeth, ac mae’r ddau’n byw ym mhocedi ei gilydd, ond wrth iddynt dyfu mae’r clymau’n dechrau datod.

Mae cefn gwlad yn newid a’r hen draddodiadau ac enwau ffermydd a chaeau dan fygythiad. Mae’r ddrama yma’n siŵr o daro tant gyda’n cynulleidfaoedd cymunedol heddiw.