Effaith newyddion gan-y-bobol

11:15, 2 Awst 2022

Sgwrs banel i drafod pwysigrwydd newyddion a chynnwys gan-y-bobol yng Nghymru heddiw.

Yng nghwmni Ifan Morgan Jones (nation.cymru), Jason Evans (Wiki Cymru), Euros Lewis (y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol) a Dylan Iorwerth.

Yn dilyn y sgwrs bydd Golwg yn lansio botwm ‘Cefnogi’ y gwefannau bro – y nodwedd fydd yn helpu i sicrhau parhad a datblygiad y rhwydwaith. A bydd cyfle i gyfranogwyr Bro360 gael sgwrs, rhannu syniadau a dathlu eu llwyddiant hyd yma!

Croeso i bawb, yn enwedig holl gyfranogwyr BroAber360, Caron360, Clonc360, BangorFelin360, BroWyddfa360, Caernarfon360, DyffrynNantlle360 ac Ogwen360.