Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Llanarth ar Hydref 8fed yn neuadd y pentref gan ddechrau am 2yp. Y beirniaid eleni bydd y Fns Meinir Jones Parry, B.Mus,LRSM, Caerfyrddin (Cerdd), Y Fns Iola Wyn, Sanclêr (Llefaru) ac y Fns Delor James, Alltyblaca (Llen) . Mae dyddiad cau cyflwyno gwaith llenyddol ar Fedi 28ain a’r tesunau yw:
Tlws yr Ifanc o dan 25:Hunan Ddewisiad- Cyflwyno unrhyw un darn o’r ffurfiau llenyddol canlynol -Stori Fer, Ymson, Cerdd neu Bortread;
Cerdd ddigri: Ar goll
Limrig yn cynnwys y frawddeg : “Wrth deithio i Lanarth un noson”
Y Frawddeg : TEGFAN.
Cyfansoddiadau a ffug enwau i law yr ysgrifennydd erbyn dydd Mercher Medi 28ain: catrinbj1@gmail.com neu Catrin Bellamy Jones, Pantyrhendy, Llanarth, Ceredigion SA47 0QS. Gallwch hefyd gysylltu â’r ysgrifennydd am fwy o wybodaeth neu os am raglen. Gyda’ hwyr cynhelir Eisteddfod Hwyliog, Bywiog gyda thimoedd o Ardal Llanarth, Ardal Talgarreg a Thafarn y Vale, Felinfach yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau ysgafn. Croeso cynnes i bawb!