Gall ymwelwyr gael llwyth o hwyl a sbri wrth i Jim y Jyglwr ddod â chymysgedd o weithdai syrcas a sesiynau ysgol marchogion gwirion i Gastell Cydweli.
Yn ogystal â chyfleoedd i roi cynnig ar jyglo a throelli platiau, bydd ymwelwyr yn cael eu herio i gwblhau tasgau gwahanol i fod y ‘marchog gwirion’ swyddogol.