Elli di wneud i swigen bara am byth? Ydy swigod yn gallu bod yn sgwâr? Wyt ti’n ddigon dewr i wthio sgiwer i mewn i falŵn? Yn un o sioeau mwyaf poblogaidd Science Made Simple, mae Becky Holmes yn archwilio’r agweddau gorau ar swigod a balŵns; o’u chwythu i’w byrstio, byddi di’n dysgu’r holl bethau anhygoel eraill gelli di eu gwneud.
Sioe a ddarperir gan: Science Made Simple
Oed 4+