Creu Syllwr Enfys

11:00, 3 Tachwedd 2022

Plant: £2.50 Oedolion: Am ddim

Ydych chi erioed wedi ystyried pam mae pethau o liwiau gwahanol? Wyddech chi fod rhai lliwiau’n anweledig? Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn eich dysgu am olau a sut i greu eich syllwyr enfys eich hun. Fyddwch chi byth yn edrych ar olau yn yr un ffordd eto! 

Sioe a ddarperir gan: Science Theatre