Ffair Werdd

10:00, 19 Tachwedd 2022

Popeth ar gyfer Nadolig Gwyrdd – anrhegion, syniadau a chyngor! Bydd y Ffair Werdd yn llawn nwyddau organig, masnach deg, wedi’u hailgylchu neu eu cynhyrchu’n lleol, neu sy’n ystyriol o’r amgylchedd. 

Bydd rhywbeth at ddant pawb yn y 40 a mwy o stondinau, yn barod i’ch rhoi chi i gyd yn hwyl yr ŵyl. Mae’r Ffair Werdd wedi bod yn cefnogi cynhyrchwyr a chrefftwyr lleol a moesegol yn Abertawe ers 1983. 

Mae gwerthwyr yn ffeiriau’r gorffennol wedi cynnig addurniadau Nadolig cartref, cardiau a phrintiau gwreiddiol, gemwaith unigryw, bagiau prydferth, danteithion blasus a llawer mwy! 

Cynhelir y Ffair Werdd mewn partneriaeth â Chanolfan yr Amgylchedd, Abertawe.