Mae Maximilian Ehrhardt yn gweithio o Berlin ac mae’n arbenigo ar ganu telynau hanesyddol, gan gynnwys y delyn deires
Mae ei CD arloesol None But the Brave (2020) yn rhoi amlygrwydd i gerddoriaeth o dair llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n gysylltiedig â John Parry, y cerddor dall a fu’n delynor teuluol i Syr Watkin Williams-Wynn o Wynnstay.
Perfformiodd John Parry a thelynorion Cymreig eraill y ddeunawfed ganrif mewn lleoliadau ffasiynol, uchel eu statws, ledled y DU gan gynnwys Caerfaddon, a bydd Maximilian yn perfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gregynog drwy chwarae peth o’r repertoire sy’n arddangos eu sgiliau hwy.