Y Garth Newydd – Prynhawn Agored 16/07/2022 – 4.00-7.00

16:00, 16 Gorffennaf 2022

Am ddim

Dewch i’r Garth Newydd, Llanbed i weld datblygiad y ganolfan newydd sy’n hyrwyddo’r Gymraeg. Cynhelir prynhawn agored Sadwrn 16eg Gorffennaf rhwng 4.00 a 7.00 o’r gloch. Dyma fenter gyffrous fydd yn medru darparu llety ar gyfer cynnal cyrsiau er mwyn codi hyder dysgwyr Cymraeg. Bydd yn darparu cyfleoedd i brofi amrywiaeth o weithgareddau megis ffotograffiaeth, hanes Cymru, crefft a mwy mewn awyrgylch Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.paned.cymru <http://www.paned.cymru> neu cysylltwch â codihyder@gmail.com <mailto:codihyder@gmail.com>

Croeso cynnes i bawb i weld Y Garth Newydd, Stryd y Bont, Llanbed SA48 7AA rhwng 4.00 a 7.00 prynhawn Sadwrn 16eg Gorffennaf. Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod.