Rhwng 26 Gorffennaf a 26 Awst, bydd ymwelwyr â Chastell Conwy ar ddyddiau Gwener yn cael eu diddanu gan ddigrifwr y dref ac yn mwynhau hanesion yr oes a fu — wedi’u hadrodd gan y storïwr preswyl.
Bydd plant hefyd yn gallu rhoi cynnig ar saethyddiaeth a mynychu gweithdai hudlath – digon da i ddewin!