Giraldus Cambrensis: gossiping and crusading around Wales, 1188

19:00, 18 Mawrth 2022

Am ddim

Roedd Gerallt Gymro yn offeiriad, awdur, ŵyr y Dywysoges Nest, ond yn bwysicaf roedd e’n glebrwr ofnadwy. Yn ystod gwanwyn cynnar 1188 hebryngodd Gerallt Archesgob Caergaint o gwmpas Cymru, yn recriwtio dynion i ymladd yn y drydedd Groesgad. Pedair blynedd yn ddiweddarach ysgrifennodd lyfr enwog am ei brofiadau.

Bydd y sgwrs Saesneg hon gan Mike Farnworth yn rhoi cipolwg ar fywyd yng Nghymru annibynnol yn ystod Oes y Tywysogion, trwy fapiau, lluniau, straeon, a geiriau Gerallt Gymro ei hun. Mae llawer o ddigwyddiadau go iawn yn ei lyfr, ond doedd Gerallt ddim yn gallu peidio ag adrodd straeon od o ardaloedd ei daith hefyd.