Gweithgareddau Am Ddim ar gyfer Blynyddoedd Cynnar

4 Ionawr 2022 – 31 Mawrth 2022

Mae Byw’n Iach Plas Ffrancon, Bethesda yn falch o gyhoeddi ein bod wedi rhyddhau sesiynau Blynyddoedd Cynnar yn rhad ac am ddim, bydd ar gael o Fis Ionawr tan ddiwedd Mis Mawrth!

Dewch i gael hwyl yn ein sesiynau Chwarae Meddal i 0-5 oed sy’n caniatáu i blant allu treulio ei amser yn chwarae mewn amgylchedd diogel gyda’n castell neidio ac amrywiaeth o deganau arbennig.

Mwynhewch ein sesiynau Gymnasteg Rhiant a Phlentyn i 3-4 oed sy’n galluogi nain neu daid, rhiant neu warcheidwad i weithio gyda’ch plentyn i helpu gwella a datblygu eu gweithredoedd, cydbwysedd a chydlynu mewn ffordd sydd llawn hwyl.

Ewch draw i gael golwg ar amserlen eich canolfan leol ar ein gwefan rŵan drwy glicio ar y linc yma Amserlen Byw’n Iach Plas Ffrancon, Bethesda. Bydd angen archebu lle o flaen llaw ar gyfer y sesiynau, gallwch wneud hyn drwy ffonio’r ganolfan neu archebu ar-lein yma Archebu ar-lein

Dilynwch ni ar Facebook, Instagram, Tiktok a Twitter er mwyn cael mwy o fanylion a diweddariad am ein Gweithgareddau Am Ddim Blynyddoedd Cynnar a llawer mwy.