Gwledda – gyda’r artist Carys Hedd

10:00, 5 Gorffennaf 2022

Am ddim

Dewch i Ganolfan y Creuddyn dydd Mawrth 5ed Gorffennaf rhwng 10.00 ac 1.00 ar gyfer Sesiwn Decstilau gyda’r artist Carys Hedd. Cyfle i chi greu blanced picnic o hen orchuddion a thecstilau eraill. Dewch a hen orchudd clustog neu obennydd gyda chi. Darperir lluniaeth ysgafn a’r cyfan am ddim. Cysylltwch gyda Lowri ar 07834 456344 os am fwy o wybodaeth. Croeso cynnes i bawb.

Trefnir ar y cyd gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion, Cered (Menter Iaith Ceredigion dan adain Cyngor Sir Ceredigion), Cynnal y Cardi (Cyngor Sir Ceredigion gyda chymorth Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru), Cyfoeth Naturiol Cymru a Celf a Busnes Cymru.