Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru

10:00, 10 Medi 2022 – 18:00, 11 Medi 2022

Yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i lawer, mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 10 ac 11 Medi, gyda gwledd o gynhyrchwyr lleol, cerddoriaeth a hwyl i’r teulu cyfan.

Bydd yr Amgueddfa yn dod yn fyw gyda thros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft i’w mwynhau o amgylch yr adeiladau hanesyddol. Cynhelir digwyddiadau i’r teulu mewn amryw leoliadau ar draws yr amgueddfa, o ddangosiadau coginio yn yr adeiladau hanesyddol i sesiynau sgiliau syrcas – bydd digon i gadw’r rhai bach yn brysur! Bydd cerddoriaeth fyw gan gynnwys canu gwerin, pop a roc, gan lu o dalentau Cymru wedi’u curadu mewn partneriaeth â Gorwelion BBC a Tafwyl.

10 a 11 Medi, 10am-6pm