Gwyl Gregynog 2022

14:30, 25 Mehefin 2022 – 18:00, 26 Mehefin 2022

Amrywiol

Mae Gŵyl Gregynog, yr ŵyl gerddoriaeth glasurol hynaf yng Nghymru, yn dychwelyd i leoliad hyfryd Neuadd Gregynog, ger y Drenewydd yng ngogledd Powys, gyda gwledd o gerddoriaeth Canol Haf.

Ymhlith yr uchafbwyntiau fydd i’w clywed yn Ystafell Gerdd hanesyddol Gregynog bydd datganiadau gan y telynor Maximilian Ehrhardt brynhawn Sadwrn, 25 Mehefin, a’r pianydd Llŷr Williams brynhawn Sul, 26 Mehefin.

Mae rhaglen pob diwrnod wedi’i chynllunio i gynnwys sgwrs o flaen y cyngerdd, a chyfle i fwynhau te prynhawn cyn pob perfformiad, felly bydd digon o amser i sgwrsio â ffrindiau yn ogystal â mwynhau’r gerddoriaeth.

Mae Swyddfa Docynnau Gŵyl Gregynog bellach ar agor ac mae tocynnau a gwybodaeth lawn ar gael ar gwylgregynogfestival.org neu ffoniwch 01686 207100..