Edmygir Llŷr Williams ymhell ac agos am ei ddeallusrwydd cerddorol dwys, ac am natur fynegiannol a chyfathrebol ei ddeongliadau.
Ac yntau’n berfformiwr Beethoven sydd wrth fodd calon pawb, fe’i croesewir yn ôl i Ystafell Gerdd Gregynog am y tro cyntaf ers deng mlynedd, i berfformio rhaglen sy’n agor gyda’r Sonata ‘Pathétique’.
Yna bydd yn rhoi sylw manwl i gyfansoddiadau sydd â dylanwad caneuon gwerin arnynt, darnau gan Tchaikovsky, Béla Bartók a Peter Warlock.
Ymwelodd Bartók â Warlock yn ei gartref teuluol, Neuadd Cefn Bryntalch rhwng Llandysul (Powys) a Threfaldwyn, yn dilyn ei ddatganiad cyhoeddus cyntaf yn y DU, sef yn Aberystwyth ar 16 Mawrth 1922, ac mae datganiad Llŷr yn nodi canmlwyddiant y digwyddiadau hynod hyn.
BEETHOVEN
Sonata Rhif 8 in C leiaf, Op. 13 (‘Pathétique’)
BARTOK
Evening in the Country (10 Easy Pieces)
Bear Dance
No. 2 of 4 Dirges
A little bit tipsy (3 Burlesques)
Swineherd’s Dance (For Children)
TCHAIKOVSKY
Danse caractéristique (18 Pieces, Op. 72, No. 4)
EGWYL
BARTOK
6 Romanian Dances
WARLOCK
Folk-Song Preludes
BARTOK
Allegro barbaro
Rondo No. 1 (3 Rondos on Folktunes)
Sonata