Gwyl Gregynog – Maximilian Ehrhardt, telyn deires 

16:00, 25 Mehefin 2022

£15 (oedolion); £7.50 (ieuenctid sy'n 18 oed ac iau)

Mae Maximilian Ehrhardt yn gweithio o Berlin ac mae’n arbenigo ar ganu telynau hanesyddol, gan gynnwys y delyn deires Gymreig.

Mae ei CD arloesol None But the Brave (2020) yn rhoi amlygrwydd i gerddoriaeth o dair llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n gysylltiedig â John Parry, y cerddor dall a fu’n delynor teuluol i Syr Watkin Williams-Wynn o Wynnstay.

Perfformiodd John Parry a thelynorion Cymreig eraill y ddeunawfed ganrif mewn lleoliadau ffasiynol, uchel eu statws, ledled y DU gan gynnwys Caerfaddon, a bydd Maximilian yn perfformio am y tro cyntaf yng Ngŵyl Gregynog drwy chwarae peth o’r repertoire sy’n arddangos eu sgiliau hwy. 

www.maximilianehrhardt.com