Gŵyl Trawsnewid: Darlunio Queer

11:00, 23 Gorffennaf 2022

Gweithdy hamddenol yn edrych ar y cyswllt rhwng hunaniaeth queer â’n hamgylchedd drwy ddarlunio, lliwio a chreu collage.
Mae croeso i chi ddod â rhywbeth sy’n eich ysbrydoli chi!

Gyda’r artist Breifni Heymann

Project gan Amgueddfa Cymru ar gyfer pobl ifanc LHDTQ+ rhwng 16-25 oed yw Trawsnewid. Mae’n archwilio ffigurau queer ac anghydffurfwyr rhyw o fewn hanes Cymru ac yn cefnogi cyfranogwyr i greu gwaith wedi ei ysbrydoli gan eu profiadau eu hunain.

Llefydd cyfyngedig, archebwch eich tocyn drwy ein gwefan.