Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe

09:00, 5 Tachwedd 2022 – 17:00, 6 Tachwedd 2022

Rydym yn falch o gynnal amrywiaeth wych o arddangosion, sioeau, sgyrsiau a gweithdai ar eich cyfer, yn syth o’n horielau a’n mannau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. 

Eleni, byddwn yn cyflwyno cleciau mawr gan Brainiacs Live, swigod a balŵns, sioeau o’r radd flaenaf, giamocs gwyddonol a miri mathemategol! Bydd y tocynnau ar werth o ddydd Llun 3 Hydref gyda chynnig cynnar na ddylid ei golli – cadwch lygad am fwy o wybodaeth!