Gall ymwelwyr gerdded trwy ganrifoedd o hanes Cymru yr haf hwn – wrth i benwythnos o dreftadaeth fyw gyrraedd Castell Rhaglan.
Gyda grwpiau hanes byw o sawl cyfnod, gall ymwelwyr ryfeddu wrth i’r cymeriadau fyw eu bywydau bob dydd a gwylio ail-greu digwyddiadau ac arddangos. Dyma ddiwrnod allan arbennig fydd yn llawn profiadau gwych i’r teulu cyfan.