Hwyrnos: Cwis Mawr yr Amgueddfa

19:00, 9 Rhagfyr 2022

£6.50yp

Ymunwch â ni am noson llawn hwyl yr ŵyl a chwestiynau cwis diddorol. 

Casglwch eich tîm a rhowch gynnig ar rowndiau o gwestiynau cerddorol, ffotograffau, gwybodaeth gyffredinol ac eitemau dirgel!

Gyda gwobrau a bar, bydd hi’n noson i’w chofion heb os yn Oriel y Warws! Does dim rhaid gwisgo Siwmper Nadoligaidd…(Timau o 6 ar y mwyaf).

Perffaith i deulu a ffrindiau, neu gyda chydweithwyr fel noson waith Nadoligaidd.