Iwcadwli yn y Bandstand

17:30, 23 Mai 2022

Am ddim

Mae Iwcadwli yn llawn cyffro i allu dychwelyd i’r Bandstand yn Aberystwyth am eu perfformiad perfformiad cyhoeddus cyntaf ers 2019.

Hwn fydd y cyntaf mewn cyfres misol yn y Bandstand dros fisoedd yr haf i’r criw sydd wedi bod nôl yn ymarfer wyneb yn wyneb ers yr Hydref.

Beth am ddod lawr ar ôl gwaith i fwynhau i wylio a chyd-ganu eich ffefrynnau Cymraeg ac i ymuno yn y dwli!

Croeso i bawb!