Lansiad Llyfr – Bywyd a Gwaith Ogwyn Davies

18:00, 1 Awst 2022

Am ddim

Bydd lansiad llyfr newydd Bywyd a Gwaith Ogwyn Davies gan Ceri Thomas a gyhoeddir gan y Lolfa yng Nghanolfan Rhiannon yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ar nos Lun y 1af o Awst.

Llyfr dwyieithog yn olrhain hanes bywyd a gwaith yr artist Ogwyn Davies gan olrhain ei yrfa lewyrchus. Bydd y gyfrol yn sôn am ei addysg a’i gynefin a’i ddylanwadau mewn manylder, ei gariad at yr iaith, at Gymru a’i phobol. Bydd yn manylu am ei dechnegau amrywiol gan sôn am ei gariad tuag at ddysgu ac yna weithio ym maes crochenwaith, a sut ddaeth hynny’n elfen gref yn ei waith.

Mynediad am ddim. Does dim angen bwcio ymlaen llaw.