Llewelyn Lewellin – Cyfres Trysorau Llambed

19:00, 28 Tachwedd 2022

Am Ddim

Cyfres Trysorau Llambed

Llewelyn Lewellin oedd prifathro cyntaf Coleg Dewi Sant, a bu’n arwain y sefydliad newydd am fwy na hanner can mlynedd, gan farw tra oedd yn y swydd yn 1878. Ochr yn ochr â’i gyfrifoldebau yn y coleg, roedd yn ficer Llambed, yn ddeon Eglwys Gadeiriol Tyddewi, ac yn ynad ar gyfer Sir Aberteifi, Sir Gaerfyddin a Sir Benfro.

Bydd yr Esgob Wyn Evans, un o olynwyr Lewellin fel deon Tyddewi, yn cyflwyno un o’r ffigurau mwy arwyddocaol yn hanes Llambed.

Digwyddiad Cymraeg fydd hwn, gyda chyfieithu ar y pryd i’r Saesneg. Y lleoliad fydd yr Hen Neuadd, Llambed.

Os hoffech chi neilltuo sedd yn Llambed, anfonwch e-bost i specialcollections@uwtsd.ac.uk