Llwybr Gaeaf Mawr yr Amgueddfa

10:00, 3 Rhagfyr 2022 – 15:00, 23 Rhagfyr 2022

£1.50 y daflen

Galwch draw ym mis Rhagfyr i fwynhau llwybr llawn hwyl i’r teulu cyfan.  

Chwiliwch am y corachod bach i’ch helpu i greu ffrind eira i addurno brig y goeden Nadolig adref. 

 Beth ydw i’n ei gael?   

  • Llwybr lliw A3 gyda gweithgaredd crefft  
  • Pecyn o greonau                    
  • Gwobr bach Nadoligaidd (ar ôl cwblhau’r llwybr) 

Ble ydw i’n cael y llwybr?   

Bydd llwybrau ar gael yn siop yr Amgueddfa wrth gyrraedd.  Nid oes angen archebu ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn 

Gwybodaeth Ychwanegol   

Iaith – Mae’r llwybrau’n ddwyieithog.   

Oedran – Yn addas ar gyfer plant 4+ oed , efallai y bydd angen help ar blant iau.  

Cost – Mae’r gost yn cynnwys un llwybr gydag un wobr.  Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.     

Mae’r llwybr ar gael ym mhob un o safleoedd yr Amgueddfa Cymru ac mae’r un peth ar bob safle : 
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.   

Lle bo’n bosibl, rydym wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio’r rhain eto.  

Nifer o lefydd gyfyngedig.