Llwybr Gaeaf Mawr yr Amgueddfa

10:00, 3 Rhagfyr 2022 – 15:00, 23 Rhagfyr 2022

£1.50 y daflen

Galwch draw ym mis Rhagfyr i fwynhau llwybr llawn hwyl i’r teulu cyfan.
Chwiliwch am y corachod bach i’ch helpu i greu ffrind eira i addurno brig y goeden Nadolig adref.

Beth ydw i’n ei gael?

Llwybr lliw A3 gyda gweithgaredd crefft
Pecyn o greonau
Gwobr bach Nadoligaidd (ar ôl cwblhau’r llwybr)
Ble ydw i’n cael y llwybr?

Bydd llwybrau ar gael yn siop yr Amgueddfa wrth gyrraedd. Nid oes angen archebu ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn

Gwybodaeth Ychwanegol

Iaith – Mae’r llwybrau’n ddwyieithog.

Oedran – Yn addas ar gyfer plant 4+ oed , efallai y bydd angen help ar blant iau.

Cost – Mae’r gost yn cynnwys un llwybr gydag un wobr. Mae croeso i chi gwblhau un fel teulu neu brynu un ar gyfer pob person.

Mae’r llwybr ar gael ym mhob un o safleoedd yr Amgueddfa Cymru ac mae’r un peth ar bob safle :
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru.

Lle bo’n bosibl, rydym wedi defnyddio deunyddiau ecogyfeillgar a byddwn yn defnyddio’r rhain eto.

Nifer o lefydd gyfyngedig.