Mary Jones: Eicon Ryngwladol

17:00, 25 Ionawr 2022

Mae stori Mary Jones, y ferch ifanc 15 mlwydd oed a gerddodd i’r Bala i gael Beibl gan Thomas Charles, wedi cydio yn nychymyg miloedd lawer o bobl ar draws y byd. Mor boblogaidd yn wir yw ei stori fel y gallwn ddweud mai Mary Jones yw merch enwocaf Cymru yn rhyngwladol.

Ond pwy yn union oedd Mary Jones? Beth oedd ei hanes cyn ac ar ôl iddi gerdded i’r Bala yn 1800? Beth oedd cysylltiad y daith honno â sefydlu’r gymdeithas enwog a dylanwadol honno, Cymdeithas y Beibl, yn 1804? A sut a pham y daeth hi a’i stori i fod mor enwog?

Dyma’r cwestiynau fydd dan sylw’r Athro E. Wyn James yn ei sgwrs rithwir dan nawdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.