Dewch yn llu i noson llawn dop yng nghwmni disgyblion ysgol Syr John Rhys, Dafydd Morgan a Chôr Meibion y Mynydd.
Digon o hwyl i ddiddanu’r teulu cyfan.
Rhost mochyn a phwdinau blasus ar gael, yn ogystal ag ocsiwn i werthu gwaith unigryw a grëwyd gan yr artist Marian Haf a phlant yr ysgol yn darlunio ardal Ponterwyd.
Croeso cynnes i bawb!