Ymunwch â’r Brainiacs, ymgollwch yn yr Academi Dditectif a dewch yn Dditectif Brainiac dan Hyfforddiant!
Byddwch yn barod amdani! Mae Brainiac Live!, tîm gorau a mwyaf gwyllt y byd gwyddonol wedi cyrraedd gyda chlec! Wedi’u gwefru ar eu newydd wedd, maen nhw’n barod i brofi’ch sgiliau.
Mae lladrad wedi bod ym Mhencadlys Brainiac! Gwisgwch eich Bathodyn Ditectif Brainiac a helpu i ddatrys y drosedd gan ddefnyddio pŵer gwyddor fforensig i ddod o hyd i’r person euog.
Bydd y gweithdy rhyngweithiol, ymarferol, 60 munud hwn, dan arweiniad y Brainiacs, yn rhoi cyfle i dditectifs ifanc ddefnyddio technegau fforensig go iawn a darganfod cliwiau i ddatrys dirgelwch.
Dysgwch am y mathau gwahanol o olion bysedd a sut mae eu casglu o leoliadau trosedd. Bydd y Ditectifs dan Hyfforddiant hefyd yn ceisio dadansoddi’r inc a ddefnyddiwyd i ysgrifennu’r nodyn pridwerth ac ôl troed a ddarganfuwyd yn lleoliad y drosedd i ddarganfod pwy gyflawnodd y drosedd.
Dewch i’n helpu i ddatrys y dirgelwch a dod yn aelod swyddogol o Academi Brainiac!
Show provided by: Brainiac