Nation Shall Speak Peace Unto Nation

19:00, 23 Medi 2022

am ddim

Sgwrs yn Saesneg gan Yr Athro Simon Potter, Prifysgol Bryste

Arwyddair y BBC, a ddewiswyd yn y 1920au, yw ‘Nation Shall Speak Peace Unto Nation’. Ar yr wyneb mae hynny braidd yn annisgwyl. Doedd prif ddatganiad cenhadaeth y BBC ddim am addysg, gwybodaeth, nac adloniant. Doedd e ddim am roliau lleol a chenedlaethol radio chwaith. Yn hytrach, dangosodd yr arwyddair obaith cyffredin y 1920au byddai darlledu radio yn gallu hybu heddwch rhyngwladol a chyd-dealltwriaeth.

Yn y sgwrs hon bydd Yr Athro Simon J. Potter, Prifysgol Bryste, yn archwilio sut gwnaeth y BBC a darlledwyr rhyngwladol eraill geisio defnyddio weiarles i annog heddwch. Bydd e hefyd yn dangos sut, yn ystod y 1930au, daeth radio i fod yn offeryn dewisol propaganda rhyngwladol yn fwy a mwy.

Cliciwch y ddolen er mwyn cofrestru am eich lle yn y gynulleidfa: