BBC 100 yng Nghymru

10:00, 10 Rhagfyr 2022 – 17:00, 16 Ebrill 2023

Archebwch docyn am ddim ymlaen llaw

Dewch ar daith drwy’r degawdau i ddysgu mwy am hanes y BBC yng Nghymru a sut mae canrif o ddarlledu wedi esblygu. Bydd cyfle hefyd i weld technoleg, rhaglenni a gwisgoedd y gorffennol drwy gyfrwng gwrthrychau, lluniau a fideos o’r archif.

BBC 100 yng Nghymru yw’r unig arddangosfa i nodi canmlwyddiant darlledu’r BBC yng Nghymru ac rydym yn gwahodd ymwelwyr o bob oed i rannu eu straeon eu hunain. Nod y BBC yw hysbysu, addysgu a diddanu – ond beth mae’r BBC yn ei olygu i chi?

Mae’r arddangosfa wedi ei chyd-ddatblygu gyda grŵp o bobl ifanc sydd yn cwestiynu cynrychiolaeth cymunedau ar y BBC a sut all y dyfodol edrych. Rydyn ni eisiau clywed gennych chi hefyd – ymunwch â’r sgwrs. Dywedwch wrthym am eich atgofion a’ch safbwyntiau wrth i chi ymweld â’r arddangosfa.