Noson Goffa T Llew Jones

19:30, 6 Hydref 2022

am ddim

Noson i’ch dyddiadur! Noson Goffa T Llew Jones, Llyfrgell Aberystwyth, Nos Iau, 6 Hydref 2022 am 7.30 yh. Dewch i wrando ar Jon M O Jones yn hel atgofion am deulu enwog y Cilie a’r gymdeithas wledig a fu’n gymaint o ddylanwad arnynt. Bydd Parti Camddwr yn ein diddanu ymhellach wedi’r sgwrs. Croeso cynnes i bawb . Cysylltwch â ni am docyn am ddim ar 01970 633717.