Noson yng nghwmni Cerys Hafana ac Annie Suganami

19:00, 8 Hydref

£8.00

Ymunwch â ni ar gyfer noson hudolus yng nghwmni’r cerddorion Cerys Hafana ac Annie Suganami wrth iddynt berfformio yn Oriel Gregynog y Llyfrgell, o flaen portread Annie o Cerys, sydd yn rhan o ein harddangosfa ‘Casglu’.

Mae Cerys Hafana yn gerddor o Fachynlleth, sydd yn chwarae amrywiadau cyfoes o hen alawon a chaneuon Cymreig, ynghyd â chyfansoddiadau gwreiddiol ar y delyn deires a’r piano. Mae hi hefyd yn aelod o Avanc (Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru), a rhyddhaodd ei halbwm unigol cyntaf, Cwmwl, yn 2020.

Mae Annie Suganami yn gerddor ac artist aml-dalentog sydd wedi arddangos ei gwaith yn eang ac sy’n aelod o’r grwp Cymraeg Cusan Tân.