Nôl i Nyth Cacwn: y ddrama

19:30, 21 Hydref 2022

£12

Yn dilyn ymateb anhygoel i berfformiadau Nôl i Nyth Cacwn ym Mhafiliwn Bont ym mis Awst, bydd y sioe yn teithio i ganolfannau yn y gorllewin yn ystod mis Hydref.

Braf bydd croesawu’r criw i Theatr Felinfach yn ystod Yr Ŵyl Ddrama 2022.

Drama lwyfan newydd gan Ifan Gruffydd ac Euros Lewis – awduron y gyfres gomedi fytholwyrdd a ddangoswyd gyntaf ar S4C yn ystod haf 1989.

Wrth i Wiliam fentro lawr lôn Nyth Cacwn heddi – 30 mlynedd yn ddiweddarach – fydd unrhywun o’r hen deulu yno? Ac os bydd, siwt groeso fydd yn ei ddisgwyl – os croeso o gwbl!

NÔL I NYTH CACWN gyda: Ifan Gruffydd, Gwyneth Davies, Meleri Morgan, Susan Rees a Dafydd Jones.

Tocynnau ar gael nawr o Swyddfa Docynnau Theatr Felinfach (01570 470697) ac ar-lein.