Padraig Jack Gyda Gwilym Bowen Rhys

19:00, 25 Mehefin 2022

£10 / £1

Cyfle i brofi gwledd Geltaidd gerddorol yma yn Theatr Felinfach ar y 25ain o Fehefin.

Dyma noson o ddathlu ail-lansio aelodaeth Cyfeillion y Theatr gyda cyngerdd acwstig gyda dau gerddor arbennig, Padraig Jack o Ynysoedd Aran, Iwerddon a’r di-hafal Gwilym Bowen Rhys, Caernarfon, dau bwerdy cerddorol!

Yn frodor o’r Ynysoedd ei hun, mae Padraig Jack yn hanu o deulu cerddorol. Mae ei dad yn gyfansoddwr caneuon dwyieithog, Barry Ronan, ac mae’n nai i’r bardd Gwyddelig ac aelod Aosdána Mary O’Malley. Fel ei dad, mae Padraig yn falch o’i ddwyieithrwydd ac yn ysgrifennu cerddoriaeth yn y Wyddeleg a’r Saesneg. Gyda dylanwadau yn amrywio o James Taylor a The Eagles i Van Morrison a Shane McGowan, mae Padraig yn gwerthfawrogi cyfansoddi caneuon cryf gyda safbwynt arbennig.

£10

Neu £1 os ydych yn ymaelodi fel cyfaill gyda’r theatr

(Buddion ymaelodi dros 12 mis)

Oriau’r Swyddfa Docynnau:

Llun i Gwener
9:30yb-16:30yp

01570 470697

Gallwch hefyd adael neges gyda’ch enw a’ch rhif ffôn ar ein peiriant ateb, neu anfonwch e-bost at theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk